Senedd Cymru | Welsh Parliament
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol | Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Diwylliant a'r berthynas newydd â'r UE | Culture and the new relationship with the EU
Ymateb gan: Llyfrgell Cenedlaethol Cymru Evidence from: National Library of Wales
Mae’r cwestiwn hwn yn amherthnasol i ni.
Yr effaith fwyaf yr ydym ni wedi’u gweld yw wrth brynu offer ar gyfer ys efydliad o wledydd y UE: mae’r broses yn arafach, ond heb achosi gorfod o drafferth i ni.
Mae’r canllawiau a ddefnyddir gennym ni’n hygyrch a dealladwy.
Mae’r UE wedi cefnogi nifer o brosiectau’r Llyfrgell yn y gorffennol ac afraid dweud y bydd ein diwylliant ni’n dlotach yn y dyfodol o fod yn methu derbyn grantiau’r UE. Nid oes dim wedi cymryd eu lle hyd yma.
Rhaid canmol ymdrechion Llywodraeth Cymru wrth adeiladu perthynas â rhai o aelodau’r UE, fel Ffrainc er enghraifft, sy’n rhoi cyfleoedd i sefydliadau Cymru feithrin perthynas â hwy yn ogystal. Gobeithiwn y bydd strategaeth diwylliant Llywodraeth Cymru (eto i’w chyhoeddi) yn agor llwybrau newydd i ni fedru adeiladu pontyndd diwylliannol newydd rhyngon ni â’n cymdogion yn Ewrop.